Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 25 Ionawr 2018

Amser: 08.59 - 14.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4585


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

John Griffiths AC (Cadeirydd)

Mick Antoniw AC

Gareth Bennett AC

Janet Finch-Saunders AC

Siân Gwenllian AC

Bethan Sayed AC

Rhianon Passmore AC

Jenny Rathbone AC

Tystion:

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Marcella Maxwell, Llywodraeth Cymru

Maureen Howell, Llywodraeth Cymru

Dr Rachel Garside-Jones, Skills Policy & Youth Engagement Division (Welsh Government)

Simon Thomas AC

Gareth Howells

Joanne McCarthy, Y Gwasanaeth Ymchwil

Staff y Pwyllgor:

Naomi Stocks (Clerc)

Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc)

Chloe Davies (Dirprwy Glerc)

Osian Bowyer (Ymchwilydd)

Hannah Johnson (Ymchwilydd)

Megan Jones (Ymchwilydd)

Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol)

Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC.

</AI1>

<AI2>

2       Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – sesiwn dystiolaeth 11

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

·         Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

·         Marcella Maxwell, Dirprwy Gyfarwyddwr Rhaglen Datblygu a Newid Sefydliadol, Llywodraeth Cymru

·         Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cydraddoldeb a Ffyniant Llywodraeth Cymru

·         Rachel Garside-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Sgiliau, Cyflogadwyedd ac Ariannu'r UE, Llywodraeth Cymru

 

2.2 Yn ystod y sesiwn cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ddarparu nodyn ar:

·         y gweithgaredd ar draws Llywodraeth Cymru yn ei dull o sicrhau ymrwymiadau gan gyflogwyr yn gyfnewid am gefnogaeth sectoraidd;

·         rôl menywod mewn cartrefi sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, yn dilyn ymgynghori ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gweinidog Tai ac Adfywio.

</AI2>

<AI3>

3       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 8 a 9 o'r cyfarfod

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI3>

<AI4>

4       Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel - trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.

 

</AI4>

<AI5>

5       Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth 11 - craffu ariannol

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Simon Thomas AC, Aelod Cyfrifol

·         Gareth Howells, Gwasanaethau Cyfreithiol Comisiwn y Cynulliad

·         Joanne McCarthy, Gwasanaeth Ymchwil Comisiwn y Cynulliad

 

5.2 Cytunodd yr Aelod Cyfrifol i ddarparu nodyn ar ei farn ar adroddiad yr Ymgynghorydd Arbenigol.

</AI5>

<AI6>

6       Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth 12 – craffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Simon Thomas AC, Aelod Cyfrifol

·         Gareth Howells, Gwasanaethau Cyfreithiol Comisiwn y Cynulliad

·         Joanne McCarthy, Gwasanaeth Ymchwil Comisiwn y Cynulliad

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Aelod Cyfrifol mewn perthynas â sut y gellid egluro'r meini prawf o ran "Ymchwiliadau Estynedig".

</AI6>

<AI7>

7       Papur(au) i'w nodi

</AI7>

<AI8>

7.1   Llythyr gan Simon Thomas AC mewn cysylltiad â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

7.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Simon Thomas AC mewn cysylltiad â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

</AI8>

<AI9>

7.2   Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid mewn cysylltiad â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

7.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid mewn cysylltiad â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

</AI9>

<AI10>

7.3   Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor ar Bopeth mewn cysylltiad â’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

7.3.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Gyngor ar Bopeth mewn cysylltiad â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

</AI10>

<AI11>

7.4   Ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r adroddiad ar gyllideb ddrafft 2018-19

7.4.a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad ar gyllideb ddrafft 2018-19.

</AI11>

<AI12>

8       Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): Trafod y prif faterion dan sylw.

8.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion cyn drafftio'r adroddiad.

</AI12>

<AI13>

9       Trafod yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytuno arno: Y Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau

</AI13>

<AI14>

10   Ymchwiliad i Feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith: trafod y cylch gorchwyl a'r ymdriniaeth

10.1 Trafododd y Pwyllgor ei gylch gorchwyl a'i ymdriniaeth o'r ymchwiliad a chytunodd arnynt.

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>